SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”) yn diwygio Erthygl 6 o Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC dyddiedig 16 Rhagfyr 2002 ar gywerthedd archwiliadau maes a gynhelir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy’n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd. Mae’r Rheoliadau yn estyn dyddiad dod i ben y Penderfyniad hwn o 31 Rhagfyr 2022 i 31 Rhagfyr 2029.

Roedd y cynnig i ymestyn Penderfyniad y Cyngor yn ddarostyngedig i gyfnod o chwe wythnos o ymgysylltu anffurfiol â rhanddeiliaid. Gwnaed hyn ar y cyd gan Lywodraethau Cymru, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ii) - yr ymddengys ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl o’r pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud oddi tano;

Yn y rhaglith, mae angen eglurhad ynghylch a yw'r pwerau a ddefnyddiwyd yn gywir. Mae'r offerynnau cyfatebol ar gyfer Lloegr a'r Alban ond yn cyfeirio at “section 16 (1) and (1A)” yn lle “section 16(1) to (4)”. Nid yw'n glir a ddefnyddir y pwerau yn is-adrannau (2) i (4) yn yr offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Yn y Nodiadau Esboniadol, nid oes unrhyw baragraff yn nodi pa un a yw Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn bodoli ai peidio, neu lle y gellir dod o hyd iddo. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn esbonio bod Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn bodoli ond nid yw hyn yn cael ei esbonio yn y Rheoliadau.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Gwneir y pwyntiau a ganlyn ynghylch termau a ddefnyddir yn y testun Cymraeg ar gyfer “equivalence” a “field inspections”.

a.     Defnyddir "Cywerthedd" yn y cyfieithiad am y gair "equivalence" yn y testun Cymraeg. Mae'r ffurf hon yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi Gymreig fel sillafiad posibl o'r enw hwn, a cheir rhai enghreifftiau mewn offerynnau statudol diweddar. Ond mae Uned Cyfieithu Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn dilyn Geiriadur Prifysgol Cymru yn bennaf ac yn nodi “cyfwerthedd” fel y sillafiad safonol ar gyfer yr enw hwn. At hynny, ni chyfeirir at "cywerthedd" ar wefan BydTermCymru, ond defnyddir "cyfwerthedd" yn hytrach am yr enw hwn. Mae'n ymddangos, felly, nad yw'r cyfieithiad wedi defnyddio canllawiau cyfieithu Llywodraeth Cymru trwy ddefnyddio "cywerthedd" yn hytrach na "cyfwerthedd" yn y Rheoliadau hyn.

b.    Yn y Rheoliadau hyn, yn y testun Cymraeg, defnyddir "archwiliadau maes" fel y cyfieithiad ar gyfer “field inspections”. Ond ymddengys fod rhywfaint o amrywiaeth rhwng “archwiliadau maes” ac “arolygiadau maes” yng nghyfieithiad yr offerynnau statudol. Mae'n ymddangos mai "arolygu" yw'r term safonol ar gyfer "inspection" yn Nherminoleg Ddeddfwriaethol yr Uned Cyfieithu Deddfwriaethol, ac mae angen gwahaniaethu ar adegau rhwng "examine" ac "inspect".

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwynt adrodd technegol, a’r ddau bwynt rhinweddau.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

3 Ionawr 2023